Cyfeirlyfr Sir Gaerfyrddin o Wasanaethau i Blant, Pobl Ifanc a'u Teuluoedd

Y Cyfeirlyfr, cartref
Gweithgareddau/Hamdden
Gwybodaeth/Cyngor
Adfocatiaeth
Gofal Ysbeidiol
Cynghori
Cefnogaeth
Addysg
Hyfforddiant
Iechyd
Gwasanaethau Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol)
Tai

Lists and Help
Cyrff Cenedlaethol
Rhestr o gyrff/gwasanaethau
Geirfa

Saesneg

Geirfa

ADFOCATIAETH
Pledio achos, neu weithredu ar ran person arall i sicrhau'r gwasanaethau y mae arnynt eu hangen a'r hawliau y mae ganddynt hawl iddynt.

ANABLEDD DYSGU
Term a ddefnyddir yn awr ynghyd ag anhawster dysgu yn hytrach na nam ar y meddwl

ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG
Anghenion sy'n gofyn am ddarpariaeth addysgol sy'n ychwanegol at yr hyn a gynigir yn arferol i blant o'r un oed (neu alw am unrhyw ddarpariaeth addysgol i blentyn dan ddwyflwydd).

ASESIAD
Y broses o ddynodi anghenion unigolyn a phennu eu cymhwysedd i gael cymorth o'i gymharu â meini prawf polisi penodol.

CANOLFAN DEULU
Canolfan y gall y plentyn a'r rhieni neu ofalwyr ei mynychu ar gyfer gweithgareddau hamdden a galwedigaethol, arweiniad neu gyngor.

CYFRYNGU (TEULU)
Proses pan fydd trydydd parti, y cyfryngydd, yn helpu cwpl sy'n ystyried gwahanu neu ysgaru i ddod i gytundeb parthed y plant, arian ac eiddo.

DATGANIAD O ANGHENION ADDYSGOL
Dogfen gyfreithiol a gynhyrchir gan yr Awdurdod Addysg Lleol sy'n dynodi ac asesu anghenion addysgol plentyn a'r ddarpariaeth y dylid ei gwneud i'w diwallu.

GOFAL DILYNOL
Cyngor a chymorth a roddir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl ifanc hyd at 21 oed sydd wedi cychwyn eu bywyd fel oedolion heb y gefnogaeth sydd ar gael fel arfer gan deulu.

GOFAL YSBEIDIOL
Darparu egwyl fer (naill ai gofal maeth neu ofal preswyl) i deuluoedd plant lle gall y baich fod yn drwm.

GWAHARDD
Gall plant gael eu gwahardd o'r ysgol ar sail eu hymddygiad am gyfnod penodedig (a elwir yn 'waharddiad dros dro') neu yn barhaol.

GWARCHOD PLANT
Gwarchod plant rhag camdriniaeth emosiynol, rhywiol a chorfforol ac esgeulustod

NIWED ARWYDDOCAOL
Gwneir y penderfyniad a yw plentyn wedi dioddef niwed arwyddocaol ar sail iechyd neu ddatblygiad y plentyn. Bydd ei i/hiechyd neu dd/datblygiad yn cael ei gymharu â'r hyn y byddid yn ei ddisgwyl yn rhesymol mewn plentyn tebyg.

PLANT Y GOFALIR AMDANYNT
Term a ddefnyddir am blant y mae'r awdurdod lleol yn darparu llety neu ofal iddynt.

SGILIAU RHIENI
Y Sgiliau sy'n ofynnol i rieni eu cael i fedru magu eu plant i safon resymol o ran iechyd a datblygiad.

YMGYNGHORI
Gofyn i bobl beth y maent yn ei feddwl neu beth fyddent yn hoffi ei weld yn digwydd. Mae hyn yn wahanol i gyfranogiad sy'n awgrymu cyfrannu at y broses o lunio penderfyniad.



Y Cyfeirlyfr, cartref : Gweithgareddau/Hamdden : Gwybodaeth/Cyngor : Adfocatiaeth : Gofal Ysbeidiol : Cynghori : Cefnogaeth : Addysg : Hyfforddiant : Iechyd : Gwasanaethau Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol) : Tai

Cyrff Cenedlaethol : Rhestr o gyrff/gwasanaethau : Geirfa

Saesneg