Patrwm
Mae'r Cyfeirlyfr wedi ei rannu yn ddeg adran wahanol. Mae teitl pob adran yn disgrifio'r math o wasanaethau a gynigir gan y cyrff a restrir yno. Yr adrannau hynny yw:
| Gweithgareddau/Hamdden | Gwybodaeth/Cyngor |
| Adfocatiaeth | Gofal Ysbeidiol |
| Cynghori | Cefnogaeth |
| Addysg | Hyfforddiant |
| Iechyd | Gwasanaethau Cymdeithasol (Gofal Cymdeithasol) |
| Tai |
Rhestrir y cyrff/gwasanaethau ym mhob adran yn nhrefn y wyddor. Ar ddiwedd pob adran y mae rhestr hefyd o gyrff eraill a all fod o gymorth, a gwybodaeth ar ble i gael hyd i wybodaeth amdanynt. Os ydych yn chwilio am gyrff sy'n cynnig math arbennig o wasanaeth yna gallwch fynd i'r adran berthnasol a chwilio trwy'r manylion i ddod o hyd i'r cysylltiadau y mae arnoch eu hangen.
Cyrff Cenedlaethol
Ein nod yw rhoi gwybodaeth am wasanaethau sydd yn lleol i bobl Sir Gaerfyrddin. Ond, lle nad oes gennym fanylion am wasanaethau lleol rydym wedi cynnwys manylion cyswllt ar gyfer Cyrff Cenedlaethol perthnasol. Fe welwch y rhain yn nhrefn y wyddor yng nghefn y Cyfeirlyfr.
Cymorth i ddod o hyd i'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen
Mae rhai rhestrau defnyddiol yng nghefn y Cyfeirlyfr i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen yn fwy cyflym ac i esbonio rhai o'r geiriau technegol a ddefnyddir yn y Cyfeirlyfr. Sef:
Rhestr o gyrff/gwasanaethau
Mae hon yn rhestr gyflawn yn nhrefn y wyddor o'r holl gyrff/gwasanaethau lleol a restrir yn y Cyfeirlyfr. Os gwyddoch pa gorff yr ydych yn chwilio amdano gallwch fynd at y rhestr a gweld ym mha adran y mae'n ymddangos. Yna trowch i'r adran ac fe welwch fanylion am y corff yr ydych yn chwilio amdano yn nhrefn y wyddor.
Mynegai i'r Pynciau
Rhestr yw hon yn nhrefn y wyddor o'r pynciau parthed plant a theuluoedd. Os nad ydych yn siwr pa un o'r adrannau sy'n berthnasol i'r pwnc yr ydych chi'n chwilio amdano, yna gallwch edrych yn y mynegai hwn. Nesaf at y pwnc fe welwch restr o gyrff sy'n darparu gwasanaethau perthnasol, a'r adrannau lle maent yn ymddangos. Yna gallwch droi i'r adrannau a ddangosir a byddwch yn gweld manylion y cyrff yr ydych eu heisiau yn nhrefn y wyddor.
Geirfa
Rhestr yw hon o ddiffiniadau o rai geiriau technegol sy'n ymddangos yn y Cyfeirlyfr. Os dowch ar draws rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, edrychwch yn yr eirfa i weld beth mae'n ei olygu.
Anghenion Arbennig
Os ydych yn chwilio am wasanaethau cefnogi i blant gydag anghenion arbennig edrychwch yn y Mynegai i'r Pyncaiu ac yn y Rhestr o gyrff/gwasanaethau. Fe welwch y cyrff perthnasol wedi eu nodi â seren (*). Nid ydym wedi paratoi adran ar wahân gan ein bod yn gweld plant gydag anghenion arbennig fel plant yn gyntaf ac yn bwysicaf - nid fel grwp ar wahân.
|